Close Menu
London ReviewsLondon Reviews
  • Home
  • What’s On News
  • Going Out
  • Reviews
  • Spotlight
  • AI News
  • Tech & Gadgets
  • Travel
  • Horoscopes
  • Web Stories
  • Forgotten eBooks

Subscribe to Updates

Get the latest creative news from FooBar about art, design and business.

What's Hot
Thousands to be supported into work as government reforms welfare system

Thousands to be supported into work as government reforms welfare system

April 16, 2026
Strictly star swaps ballroom for canals to deliver pizzas by gondola

Strictly star swaps ballroom for canals to deliver pizzas by gondola

April 16, 2026
Restricted access – Le Monde

Restricted access – Le Monde

April 16, 2026
Facebook X (Twitter) Instagram
  • Privacy
  • Terms
  • Advertise
  • Contact
Facebook X (Twitter) Instagram
London ReviewsLondon Reviews
Subscribe
  • Home
  • What’s On News
  • Going Out
  • Reviews
  • Spotlight
  • AI News
  • Tech & Gadgets
  • Travel
  • Horoscopes
  • Web Stories
  • Forgotten eBooks
London ReviewsLondon Reviews
Home » Y Canghellor yn darparu diogelwch ac adnewyddiad cenedlaethol i Gymru
What's On News

Y Canghellor yn darparu diogelwch ac adnewyddiad cenedlaethol i Gymru

April 1, 202510 Mins Read
Facebook Twitter Pinterest LinkedIn Tumblr Email Telegram WhatsApp
Y Canghellor yn darparu diogelwch ac adnewyddiad cenedlaethol i Gymru
Share
Facebook Twitter LinkedIn Pinterest Email
  • Mae’r Canghellor yn addo creu “cyfnod newydd o ddiogelwch ac adnewyddiad cenedlaethol” wrth iddi gyflwyno Datganiad y Gwanwyn i hybu twf economaidd, diogelu pobl sy’n gweithio a chadw Prydain yn ddiogel.
  • Ar gyfartaledd, bydd pobl ledled y DU £500 y flwyddyn yn well eu byd erbyn diwedd tymor y senedd hon o’u cymharu ag o dan y llywodraeth flaenorol, gan roi mwy o arian ym mhocedi pobl.
  • Mae twf wrth galon y Cynllun ar gyfer Newid, a gall Prydain ddechrau adeiladu diolch i’r dyraniad gwariant cyfalaf ychwanegol gwerth £13 biliwn, ochr yn ochr â £2.2 biliwn o gyllid ar gyfer amddiffyn y flwyddyn nesaf.

Ar gyfartaledd, bydd pobl ledled y DU £500 yn well eu byd o 2029, o’i gymharu â rhagolwg yr hydref yr OBR, gan helpu i gyflawni’r Cynllun ar gyfer Newid, wrth i’r Canghellor gyhoeddi Ddatganiad y Gwanwyn heddiw (dydd Mercher 26 Mawrth) sy’n manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael mewn byd sy’n newid.

Cadarnhaodd yr OBR hefyd fod disgwyl i economi’r DU dyfu’n gyflymach na’r disgwyl o 2026 ymlaen ac y bydd yn uwch na’r hyn a nodwyd yn eu rhagolwg yr hydref erbyn 2029 – gan godi i 9.5% o’i gymharu â 9.2%.

Nododd y Canghellor sut mae’r llywodraeth yn gwarchod diogelwch gwladol ac yn manteisio i’r eithaf ar botensial sector amddiffyn y DU ar gyfer twf drwy gadarnhau y bydd cynnydd o £2.2 biliwn yng nghyllideb amddiffyn y DU gyfan yn 2025-26.

Mae Datganiad y Gwanwyn yn cyflawni cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU sy’n canolbwyntio ar ei hamcanion craidd, sef dod â sicrwydd a sefydlogrwydd i bobl sy’n gweithio ledled y DU.

Mae’n dilyn y Gyllideb yn yr hydref lle cyhoeddodd y Canghellor y bydd Llywodraeth Cymru yn cael setliad o £21 biliwn yn 2025/26 – y mwyaf mewn termau real yn hanes datganoli. Mae hyn yn cynnwys £1.7 biliwn yn ychwanegol drwy fformiwla Barnett, gyda £1.5 biliwn ar gyfer gwariant o ddydd i ddydd a £250 miliwn ar gyfer buddsoddiad cyfalaf.

Mae’r mesurau a gymerwyd heddiw yn golygu cynnydd pellach o £16 miliwn drwy symiau canlyniadol o dan Barnett yn 2025/26. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael dros 2.0% yn fwy y pen na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU yng ngweddill y DU, sy’n golygu £4 biliwn yn fwy yn 2025-26.

Bydd cyllid grant bloc Llywodraeth Cymru o 2026-27 ymlaen yn cael ei gadarnhau yng Ngham 2 yr Adolygiad o Wariant, sy’n dod i ben ar 11 Mehefin 2025. Bydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yn cwrdd â’i gymheiriaid o’r llywodraethau datganoledig i drafod eu blaenoriaethau cyn i’r adolygiad gael ei gwblhau.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Datganiad y Gwanwyn heddiw yn mynd ymhellach ac yn mynd ati’n gyflymach i sicrhau twf economaidd, diogelwch cenedlaethol ac adnewyddu ledled Cymru a gweddill y DU.

Drwy gywiro sylfeini ein heconomi, rydyn ni eisoes wedi dechrau cyflawni’r newid y pleidleisiodd pobl Cymru drosto naw mis yn ôl.

Mae’r £16 miliwn sydd ar gael heddiw drwy Fformiwla Barnett yn ychwanegol at y setliad mwyaf erioed gwerth £21 biliwn a gyhoeddwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yng Nghyllideb yr Hydref diwethaf, gan roi hwb i wariant ar wasanaethau cyhoeddus fel y GIG, ac mae rhestr aros eisoes wedi bod yn disgyn yng Nghymru.

Rydym wedi gwneud yn siŵr na fydd unrhyw deulu yng Nghymru’n talu ceiniog yn fwy o dreth yn eu cyflogau ac rydym wedi codi’r isafswm cyflog a’r cyflog byw i hyd at 140,000 o weithwyr yng Nghymru.

Rydyn ni’n creu degau o filoedd o swyddi newydd drwy Barthau Buddsoddi Cymru, Porthladdoedd Rhydd a drwy brosiectau twf lleol a mewnfuddsoddi. Bydd buddsoddiad heddiw mewn amddiffyn hefyd yn rhoi hwb i’r diwydiant yng Nghymru. Ac rydyn ni wedi darparu bargen well i weithwyr dur Cymru ac, am y tro cyntaf, £25m i gadw tomennydd glo Cymru’n ddiogel.

Mae’r Datganiad y Gwanwyn hwn yn rhoi hwb i dwf economaidd, yn amddiffyn pobl sy’n gweithio ac yn cadw ein gwlad yn ddiogel.”  

Amddiffyn

Rydym yn mynd ymhellach ac yn mynd ati’n gyflymach i warchod ein diogelwch gwladol a manteisio i’r eithaf ar y potensial o dwf economaidd yn sector amddiffyn y DU.

  • Rydym yn cynyddu’r gyllideb amddiffyn o £2.2 biliwn yn 2025-26, gan gynyddu’r gwariant ychwanegol ar amddiffyn i fwy na £5 biliwn ers Cyllideb yr Hydref.
  • Mae hyn yn codi gwariant ar amddiffyn i 2.36% y flwyddyn nesaf a bydd yn cael ei fuddsoddi mewn gosod Arfau Ynni Cyfeiriedig ar longau’r Llynges Frenhinol bum mlynedd yn gynt na’r disgwyl, darparu cartrefi gwell i deuluoedd milwrol a moderneiddio Safle Llynges Ei Fawrhydi yn Portsmouth.
  • Neilltuwyd isafswm o 10 y cant ar gyfer gwariant ar gyfarpar gyda thechnolegau datblygol fel dronau a systemau awtonomaidd, technolegau â defnydd deuol, a galluoedd a bwerir gan ddeallusrwydd artiffisial, fel bod gan filwyr Prydain yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ymladd ac ennill mewn rhyfeloedd modern.
  • Rhoi’r dechnoleg newydd hon yn nwylo ein lluoedd arfog yn gyflymach drwy leihau biwrocratiaeth, gydag uned newydd Arloesi Amddiffyn y DU yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn arwain ymdrechion i ddod o hyd i dechnoleg addawol a sicrhau bod y rhain yn cyrraedd y rheng flaen yn gyflym, gan gryfhau sector technoleg y DU a chynyddu buddsoddiad preifat.
  • Creu prosesau caffael pwrpasol ar gyfer gwahanol fathau o offer milwrol, gan ddysgu gwersi o’n cefnogaeth gyflym i Wcráin i gymell targedau amser cyflymach ar gyfer rhoi tanciau, awyrennau ac offer hanfodol eraill newydd ar waith ar gyfer rhyfela modern.
  • Mae’r llywodraeth hon yn benderfynol o drawsnewid y sector amddiffyn i fod yn beiriant ar gyfer twf drwy ganolbwyntio’r buddsoddiad hwn ar y meysydd hynny sy’n rhoi hwb i gapasiti cynhyrchiol yr economi, fel buddsoddi mewn arloesi a thechnolegau newydd. O ganlyniad i’r cynnydd mewn gwariant ar amddiffyn i 2.5%, mae’r llywodraeth yn amcangyfrif y gallai hyn arwain at GDP o tua 0.3% yn uwch yn y tymor hir, sy’n cyfateb i tua £11 biliwn o GDP yn arian heddiw.
  • Bydd buddsoddiad y llywodraeth mewn amddiffyn hefyd yn cefnogi ei chenhadaeth fwyaf blaenllaw, sef sicrhau twf economaidd. Bydd dinasyddion y DU yn cael eu diogelu rhag bygythiadau gartref ar yr un pryd â chreu amgylchedd sefydlog lle gall busnesau ffynnu, a chefnogi prentisiaethau a swyddi medrus iawn ledled y DU.
Twf

Hybu twf economaidd yw prif genhadaeth Llywodraeth y DU, er mwyn i ni allu rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl sy’n gweithio ar draws pob rhan o’r DU.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y cynllun hwn ar gyfer twf yng Nghymru, gan gynnwys cadarnhau ffocws Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint ar weithgynhyrchu uwch i ddenu gwerth £1 biliwn o fuddsoddiad a chreu hyd at 6,000 o swyddi; a £1.5 biliwn o fuddsoddiad uniongyrchol gan Lywodraeth y DU mewn prosiectau sy’n cefnogi twf ledled Cymru.

Mae Llywodraeth y DU yn gadarn ei chefnogaeth i’r cymunedau dur. Drwy Fwrdd Pontio Tata Steel Port Talbot, mae’n darparu gwerth £80 miliwn i helpu gweithwyr, y gadwyn gyflenwi, busnesau lleol ac adfywio. 

Bydd gweithredoedd y llywodraeth hon drwy gydol Cyllideb yr Hydref a Datganiad y Gwanwyn, os cânt eu cynnal, yn arwain at gynnydd o 0.6% yn lefel y GDP go iawn erbyn 2034-25.

Daeth yr OBR i’r casgliad bod y rheol sefydlogrwydd yn cael ei bodloni o £9.9 biliwn a bod y rheol buddsoddi yn cael ei bodloni o £15.1 biliwn. Mae’r ddwy reol yn cael eu bodloni ddwy flynedd yn gynnar, sy’n golygu mai dim ond benthyca ar gyfer buddsoddi y mae’r llywodraeth o 2027-28 ymlaen ac mae’r ddyled ariannol net yn gostwng.

Nid yw’r llywodraeth yn fodlon â ffigurau twf tymor byr, ac mae’n mynd ymhellach ac yn mynd ati’n gyflymach heddiw i wella hyn.

Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi buddsoddiad cyfalaf pellach o £13 biliwn dros oes y Senedd er mwyn mynd ymhellach o ran twf, ac mae hynny’n ychwanegol at y cynnydd o £100 biliwn a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref. Bydd hyn yn cyflawni’r prosiectau sydd eu hangen i ysgogi buddsoddiad preifat, hybu twf ac yn gwthio strategaeth ddiwydiannol fodern y DU yn ei blaen.

Gyda’i gilydd, mae’r buddsoddiad cyfalaf ychwanegol hwn yn gwrthbwyso’r arbedion bach ar wariant o ddydd i ddydd ac yn golygu y bydd cyfanswm gwariant adrannol yn cynyddu dros y pum mlynedd nesaf, o’i gymharu â’r cynlluniau yn yr hydref.

Diwygio

Mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o wneud y sector cyhoeddus yn fwy cynhyrchiol ac o wella gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n gweithio. Ond mewn byd sy’n newid, mae angen i ni fynd ymhellach a mynd ati’n gyflymach i sicrhau ein bod yn gallu darparu’r gwasanaethau cyhoeddus y mae pobl sy’n gweithio yn poeni fwyaf amdanynt.

Mae’r llywodraeth wedi dangos ei hymrwymiad i wneud y penderfyniadau anodd sydd eu hangen i sbarduno effeithlonrwydd a diwygio’r wladwriaeth – lleihau aneffeithlonrwydd a dyblygu biwrocrataidd; a rhoi diwedd ar wariant gwastraffus gan y llywodraeth drwy ganslo miloedd o gardiau credyd y llywodraeth.

Mae cael mwy o bobl i mewn i swyddi hefyd yn ganolog i genhadaeth y llywodraeth o ran twf. Mae’r system les hon wedi methu ac yn siomi pobl drwy ofyn iddynt brofi’r hyn na allant ei wneud, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn y gallent ei wneud gyda’r cymorth iawn – mae’n caethiwo pobl oherwydd bod ofn arnynt roi cynnig ar waith, ac oherwydd diffyg cefnogaeth a chymhellion ariannol gwael.

Bydd y system nawdd cymdeithasol bob amser yn gwarchod y rhai hynny na allant fyth weithio, a dyna pam y mae’r llywodraeth hon yn cynnig premiwm ychwanegol a fydd yn diogelu eu hincwm. A bydd yn dod â diwedd i’r drefn o ailasesu pobl sydd â’r cyflyrau gydol oes mwyaf difrifol i roi urddas a sicrwydd iddynt.

Helpu mwy o bobl i gael gwaith yw un o nodau canolog y diwygiadau hyn, a dyna pam mae’r llywodraeth yn mynd i’r afael â chymhellion i fod yn segur drwy ddiddymu’r WCA, ail-gydbwyso Credyd Cynhwysol, a buddsoddi mwy mewn cymorth cyflogaeth.

Byddwn bob amser yn cefnogi’r rheini sydd â chyflyrau iechyd tymor hir drwy’r Taliad Annibyniaeth Bersonol, a fydd yn parhau i fod yn fudd-dal pwysig nad yw’n seiliedig ar brawf modd ar gyfer pobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd tymor hir.  Ond bydd y diwygiadau hyn yn gwneud y system yn fwy penodol a chynaliadwy er mwyn sicrhau bod rhwyd ddiogelwch ar gael i’r rheini sydd ei hangen fwyaf.

Mae’r Canghellor wedi cadarnhau y byddwn yn creu Cronfa Trawsnewid gwerth £3.25 biliwn i gefnogi’r gwaith sylfaenol o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, manteisio ar gyfleoedd technoleg ddigidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI), a thrawsnewid darpariaeth rheng flaen i ryddhau arbedion i drethdalwyr yn y tymor hir.

Cyhoeddodd y Canghellor hefyd becyn o fesurau i gau’r bwlch treth, gan godi £1 biliwn y flwyddyn erbyn 2029-30. Amcangyfrifwyd fod bwlch treth y DU yn tua £40 biliwn yn 2022-23.

Edrych Ymlaen

Mae Datganiad y Gwanwyn yn adeiladu ar Gyllideb yr Hydref a’r penderfyniadau a wnaed ers hynny i sicrhau sefydlogrwydd i economi Prydain a sbarduno twf economaidd.

Bydd y llywodraeth yn nodi ei chynlluniau ar gyfer gwariant a diwygiadau allweddol i’r sector cyhoeddus yn yr Adolygiad o Wariant a fydd yn dod i ben ar 11 Mehefin 2025.

Share. Facebook Twitter Pinterest LinkedIn Tumblr Email

Related Posts

Thousands to be supported into work as government reforms welfare system

Thousands to be supported into work as government reforms welfare system

April 16, 2026
Appointments to the Animals in Science Committee: April 2026

Appointments to the Animals in Science Committee: April 2026

April 16, 2026
Ofsted closes expert groups, thanking members for their ‘instrumental’ help

Ofsted closes expert groups, thanking members for their ‘instrumental’ help

April 16, 2026
Andy Stroman Remembers His Uncle Barney

Andy Stroman Remembers His Uncle Barney

April 16, 2026
Shanghai subway pollution study maps hidden commuter risk

Shanghai subway pollution study maps hidden commuter risk

April 15, 2026
Apply to the Advocate General’s Panel of Northern Ireland Special Advocates

Apply to the Advocate General’s Panel of Northern Ireland Special Advocates

April 15, 2026
Editors Picks
Strictly star swaps ballroom for canals to deliver pizzas by gondola

Strictly star swaps ballroom for canals to deliver pizzas by gondola

April 16, 2026
Restricted access – Le Monde

Restricted access – Le Monde

April 16, 2026
Appointments to the Animals in Science Committee: April 2026

Appointments to the Animals in Science Committee: April 2026

April 16, 2026
Ofsted closes expert groups, thanking members for their ‘instrumental’ help

Ofsted closes expert groups, thanking members for their ‘instrumental’ help

April 16, 2026
Latest News
Crouch End art collective launches award for young artist

Crouch End art collective launches award for young artist

By News Room
Blackout Vs. Thermal Curtain Lining: Which Should You Choose?

Blackout Vs. Thermal Curtain Lining: Which Should You Choose?

By News Room
Andy Stroman Remembers His Uncle Barney

Andy Stroman Remembers His Uncle Barney

By News Room
London Reviews
Facebook X (Twitter) Instagram Pinterest Vimeo YouTube
  • Privacy Policy
  • Terms of use
  • Advertise
  • Contact
  • Disclosure
© 2026 London Reviews. All Rights Reserved.

Type above and press Enter to search. Press Esc to cancel.